Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                   

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (“ICC”) gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo cyrff cyhoeddus sy’n cynnal AEI. Fel yr eglurir yn y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i ICC ddarparu rhaglen o gymorth i gyrff cyhoeddus a fydd yn cynnwys hyfforddiant, pecynnau cymorth, cynnal rhwydwaith ymarferwyr AEI a gweithgareddau eraill sy’n fuddiol i gyrff cyhoeddus. Bydd manylion cymorth ychwanegol o’r fath yn cael eu cynnwys mewn cyfarwyddydau i’w dyroddi gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 19(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd hyn yn caniatáu i’r cymorth ychwanegol sydd i’w ddarparu gan ICC fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ofynion y cyrff cyhoeddus perthnasol cyn ac ar ôl gweithredu’r gofynion a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:                         

Dechreuodd y gwaith o weithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“Deddf 2017”) yn syth ar ôl pasio’r Ddeddf ym mis Gorffennaf 2017, ac mae llawer o ddarpariaethau Deddf 2017 wedi eu cychwyn ers hynny.

Dechreuodd swyddogion y gwaith paratoi i lunio cynigion ar gyfer asesiadau o’r effaith ar iechyd a nodir yn Rhan 6 o Ddeddf 2017 bron yn syth ar ôl pasio Deddf 2017. Fodd bynnag, adleolwyd staff yn 2017 i weithio ar yr ymateb i Brexit, ac eto yn gynnar yn 2020 mewn ymateb i bandemig COVID-19. Ailddechreuodd y gwaith ar y Rheoliadau sy’n ofynnol gan Ran 6 o Ddeddf 2017 yn ystod y flwyddyn ariannol 2022-23, gan gynnwys ymarfer ymgynghori yn gynnar yn 2024.Arweiniodd yr ymarfer ymgynghori a’r ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid at nifer sylweddol o ymatebion dadlennol a hwylusodd y gwaith o ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru ymhellach yn y maes hwn, ynghyd â drafftio rheoliadau.

Wrth fynd ati, rydym wedi sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n gadarn ac yn effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys ICC a chyrff cyhoeddus perthnasol, er mwyn sicrhau y gall polisi Llywodraeth Cymru ynghylch asesiadau o’r effaith ar iechyd gael ei gyflwyno mewn ffordd y gellir ei deall gan gyrff cyhoeddus perthnasol a chael ei gyflawni mewn ffordd sy’n osgoi bod yn rhy fiwrocrataidd neu’n rhy feichus iddynt.